|
.Hanes a Chefndir.
Melville Richards
Bu'r Athro Melville Richards (1910-1973) yn dysgu mewn sefydliadau prifysgol
yn Abertawe a Lerpwl cyn dod yn Athro'r Gymraeg ym Mangor ym 1965. Cyfrannodd
yn helaeth at ysgolheictod Celtaidd mewn llenyddiaeth, ieitheg a gramadeg,
ond enwau lleoedd oedd ei ddiddordeb ysol. Yn ystod ei yrfa, casglodd
archif ryfeddol o ddeunydd enwau lleoedd, ac ar hyn y seiliodd laweroedd
o erthyglau dysgedig, ac erthyglau mwy hygyrch ond yr un mor gadarn eu
hysgolheictod, i'r darllenydd cyffredinol. O'r toreth hwnnw o 328,778
o slipiau, detholodd hefyd a threfnu deunydd oedd yn ymwneud â phrif
enwau lleoedd Cymru, a'i obaith yn y pen draw oedd ei gyhoeddi fel onomasticon
Cymreig. Gwaetha'r modd, rhoes ei farwolaeth annhymig derfyn ar y cynllun
hwn, ond caiff ei ddefnydd ei ymgorffori yn Geiriadur Enwau Lleoedd
Cymru a gyflwynir, pan gaiff ei gyhoeddi, i goffadwriaeth Melville Richards.
Creu cronfa ddata enwau lleoedd yng Nghymru
Prosiect y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd
Yn fuan wedi marwolaeth Melville Richards, penderfynodd Bwrdd Astudiaethau
Celtaidd Prifysgol Cymru y dylai ased ymchwil mor nodedig fod ar gael
yn ehangach er mwyn symbylu, cynnal a bod yn sail o wybodaeth i ymchwil
i enwau lleoedd yng Nghymru. Ym mhen amser, ym 1988 gwahoddwyd yr
Athro Bedwyr Lewis Jones (olynydd Melville Richards ym Mangor) a'r
Athro Gwynedd O Pierce (Caerdydd) i gychwyn prosiect i droi'r archif
yn gronfa ddata, ac mewn ymgynghoriad a'r Dr Terry James (o'r Comisiwn
Brenhinol ar Henebion yng Nghymru) rhoddwyd prawf ar lawer prototeip,
ac ym 1994, crëwyd
swydd yn PB dan nawdd y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd i ddechrau creu
cronfa ddata o'r slipiau ymchwil. O dan gyfarwyddyd Tomos Roberts,
archifydd Prifysgol Bangor ar y pryd, bu Glynis Roberts, Catherine
Lowe ac Ann Daniels yn eu tro yn gweithio fel mewnbynwyr. O gofio cynifer
y slipiau, araf, o raid, fu'r cynnydd.
Prosiect Bwrdd Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Ar anogaeth y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd, dyfarnwyd grant AHRB sylweddol
i'r Athro Hywel Wyn Owen (dan y Cynllun Cyfoethogi Ymchwil) i gwblhau'r
gronfa ddata mewn prosiect tair-blynedd (2001-2004). Talodd hyn am bedair
swydd ran-amser: Ann Daniels (2001-2003) a Nesta Roberts, Owain Davies
a Gruffudd Prys (2001-2004). Arweiniwyd y prosiect gan yr Athro Hywel
Wyn Owen a'i leoli yn y Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd yn PB. Mae tîm
y prosiect AHRB, PB a'r Bwrdd Astudiaethau Celtaidd yn cydnabod yn ddiolchgar
gefnogaeth yr AHRB yn y gwaith o gwblhau cronfa ddata enwau lleoedd Melville
Richards.
Yr archif enwau lleoedd yn PB
Maint
Mae'r archif (heb gynnwys onomasticon arfaethedig Melville Richards) yn
cynnwys 159 blwch, a phob un o'r rhain yn dal tua 2100 o slipiau yr un.
Mae dwysedd y defnydd yn amrywio o slipiau gydag un enw i slipiau gyda
deg llinell neu fwy o fanylion. Mae'r slipiau yn ymdrin ag aneddfannau
(lleoedd) a nodweddion topograffaidd (caeau, bryniau, mynyddoedd, afonydd,
ffrydiau, baeau, penrhynau etc.).
Cyflwyniad
Bydd gan y rhan fwyaf o slipiau fel rheol brif enw (wedi'i sillafu'n safonol
fel arfer), lleoliad mewn sir, plwyf neu dreflan, cyfeiriad grid (NGR),
ffurfiau hanesyddol (gan gynnwys dyddiad a ffynhonnell ddogfennol), a
chroesgyfeiriadau weithiau at enwau tebyg neu ffynonellau eilaidd perthnasol.
Ffynonellau dogfennol
Fel gydag ymchwilwyr enwau lleoedd yn gyffredinol, cymerodd Melville Richards
ei dystiolaeth hanesyddol o nifer o ffynonellau dogfennol: asesiadau treth tir,
cofrestri plwyfi, mapiau a rhestri degwm, papurau stadau, rholiau canoloesol,
siarteri, rhenti, rhestri tir ac ewyllysiau, siartiau morwrol, dyfarniadau cau
tiroedd, brutiau llenyddol, croniclau, sagâu a rhamantau. Hyd y gwyddom, ni
chadwodd Melville Richards restr ffurfiol o dalfyriadau ei ffynonellau
dogfennol, ond talfyriadau confensiynol yw'r mwyafrif llethol, sy'n adnabyddus
iawn i ysgolheigion heddiw. Fodd bynnag, erys nifer fechan iawn o dalfyriadau
sydd wedi llwyr drechu pob ymgais i'w hadnabod. Rhestrir yr holl dalfyriadau yn
AMR.
Cyfeiriadau at y ffynhonnell
Lle gwyddai Melville Richards am erthygl, nodyn neu drafodaeth am enw arbennig,
neu lle daeth ar draws un wedyn, byddai'n aml yn ychwanegu'r cyfeiriad at y
slip, weithiau fel ymylnodau. Cynhwyswyd y cyfeiriadau buddiol hyn yn AMR.
Cyfeiriadau grid
Lle'r oedd modd, byddai Melville Richards yn lleoli pob enw (fesul plwyf a/neu
dreflan) ac yn rhoi cyfeiriad map. Am ryw reswm anesboniadwy, byddai'n
gwrthdroi dwyreiniadau a gogleddiadau yn rheolaidd. Cywirwyd y rhain ar gyfer
AMR sydd hefyd wedi ychwanegu NGR cyfatebol ar sail confensiynau cyfredol
(2004) yr Arolwg Ordnans (OS). Mae'r prosiect yn cydnabod cydweithrediad yr OS
yn hyn o beth.
Defnydd ategol
Mae'r archif yn PB yn cynnwys mwy nac a gynhwyswyd yn AMR. Arferai Melville
Richards ddefnyddio'r blychau i drefnu deunydd ar gyfer ei ymchwil i ramadeg,
geiriadureg ac enwau personol. Yn gynnar yn ystod oes y prosiect, penderfynwyd
gadael y deunydd hwn allan o AMR gan ei fod eisoes wedi ei ymgorffori
(ar ryw ffurf neu'i gilydd) yn ei argraffiadau beirniadol o destunau llenyddol
a chyhoeddiadau gramadegol. Fodd bynnag, er mwyn cadw o leiaf gofnod electronig
o'r slipiau ychwanegol hyn nad oes a wnelont ag enwau lleoedd, fe'u cofnodwyd
yn ôl y prif enw yn unig, ac yna gwneud detholiad i ffurfio cronfa ddata
ar wahân. Yn yr archif enwau lleoedd sydd weddill, sef y gwir AMR, y mae
bellach 214,770 o slipiau.
Creu'r gronfa ddata
Fformat
Cynlluniwyd fersiwn derfynol y gronfa ddata i weithio ar raglen o'r enw
Foxpro, sef yr hyn a dybiwyd oedd y rhaglen fwyaf addas ar y pryd. Ers
hynny, uwchraddiwyd y rhaglen nifer o weithiau mewn ymgynghoriad â Dr
Terry James ac adran Technoleg Gwybodaeth PB. Y mae fformat a etifeddwyd
o raid wedi cyfyngu ar rai o nodweddion y gronfa ddata.
Meysydd
Mae slip nodweddiadol yn cynnwys y nodweddion canlynol: prif enw, lleoliad
(treflan, plwyf, sir cyn-1974 neu ddynodiad tiriogaethol arall megis cwmwd neu
ynys), cyfeiriad grid, ffurf hanesyddol, dyddiad, ffynhonnell, cyfeiriadau
ategol. Mae AMR yn neilltuo maes ar wahân i bob nodwedd.
Golygu'r gronfa ddata
Paratowyd AMR i'w ddefnyddio'n derfynol gan dîm y prosiect, Gwasanaethau
Gwybodaeth yn PB a staff Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, PB, uned gydag arbenigedd mewn
digideiddio iaith a geiriadureg.
|