.Arweiniad
Defnyddwyr.
Holi'r Gronfa
Ddata
Cyfyngiadau
Bwriad perchenogion yr hawlfraint a PB yw gwarchod
yr archif ar ei ffurf wedi'i ddigideiddio fel yn yr archif o slipiau yn
PB. Yn ystafell ymchwil yr Archifdy mae modd eu gweld a'u copïo, a rhydd
AMR yr un cyfleuster. Mae AMR yn caniatáu i ymchwilwyr weld ac argraffu
tudalennau o 20 cofnod y dudalen er mwyn pennu dosbarthiad enw arbennig,
neu amlder elfen enw lle.
Chwilio
Mae i dudalen chwilio cronfa ddata Archif Melville Richards
chwe blwch chwilio. Y mae'r rhain yn cyfateb i'r prif gategorïau gwybodaeth
yn y gronfa ddata, sef:
- Prif Enw
- Plwyf
- Ffurf
- Dyddiad
- Sir
- Ffynhonnell
Mae modd chwilio fesul categori neu gategorïau lluosog trwy deipio gwrthrych
eich chwiliad yn y blwch/blychau chwilio priodol.
Er enghraifft:
I chwilio am bob cofnod sy'n cynnwys bangor fel
ei Brif Enw:
- Teipiwch bangor i'r blwch chwilio Prif Enw.
- Cliciwch ar Chwilio.
I chwilio am bob cofnod sy'n cynnwys bangor fel
ei Brif Enw ac sy'n cynnwys ffurf hanesyddol a gymerwyd o ffynhonnell
Mostyn:
- Teipiwch bangor i'r blwch Prif Enw.
- Dewiswch Mostyn o'r ddewislen raeadru a glymir i'r blwch chwilio
Ffynhonnell.
- Cliciwch ar Chwilio.
Defnyddio'r nod seren *
Mae modd hefyd chwilio am rannau o eiriau neu enwau trwy
ddefnyddio'r nod seren *.
Er enghraifft:
Bydd chwilio am bangor yn y Prif Enw yn dangos pob
cofnod sy'n cynnwys bangor yn unig.
Bydd chwilio am *bangor yn y Prif Enw yn dangos pob
cofnod sy'n cynnwys bangor fel rhan olaf gair neu enw, er enghraifft
Capel Bangor, Bryn Bangor a Bangor.
Bydd chwilio am bangor* yn y Prif Enw yn dangos pob
cofnod sy'n cynnwys bangor fel rhan gyntaf gair neu enw, er enghraifft
Bangor Is-coed, Bangor Fawr a Bangor.
Bydd chwilio am *bangor* yn y Prif Enw yn dangos pob
cofnod sy'n cynnwys bangor fel rhan ganol gair neu enw, er enghraifft
Cored Bangor Fawr, Cefn Bangor Isaf a Bangor.
Dangos canlyniadau'r chwiliad
Wedi rhoi ymholiad chwilio i mewn i'r gronfa ddata, crëir
tabl i ddangos canlyniadau'r chwiliad. Mae colofnau'r tabl yn cyfateb
i'r categorïau gwybodaeth sydd yn y gronfa ddata, sef:
- Prif Enw
- Plwyf
- Sir
- Dyddiad
- Ffurf
- Ffynhonnell Fer
- Ffynhonnell
- Argraffiad/Tudalen etc.
- Cyfeiriad Grid Cenedlaethol (dull rhif)
- Cyfeiriad Grid Cenedlaethol (dull llythyren)
Trefnu canlyniadau'r chwilio
Mae modd gosod unrhyw un o golofnau'r tabl yn nrhefn yr
wyddor. I wneud hyn, cliciwch ar deitl y golofn y carech ei didol yn nhrefn
y wyddor. Ail-drefnir y data ym mhob colofn arall i gyfateb i drefn y
golofn a ddetholwyd.
Dethol elfennau
Wrth ysgrifennu'r slipiau arferiad Melville Richards,
diolch byth, oedd safoni'r prif enw. Felly, er mai dim ond rhai esiamplau
sydd, er enghraifft, o'r ffurf hanesyddol Kaye Koghion, prif
enw Melville Richards yw Caeau Cochion. Gallwch felly gyrchu'r
elfennau cae a coch(ion) yn weddol rhwydd trwy chwilio
yn y blwch Prif Enw yn hytrach na'r blwch Ffurf. Dylech fod yn ofalus
o gadwynau o lythrennau sy'n ymdebygu i elfennau (Cefn Cerddinen
yn ymddangos fel esiampl o din, Cae'r fel caer, ac yn y blaen) gan nad ydynt
o reidrwydd yn cyfateb i'r elfen o rhan eu hystyr.
Treigladau
Mae enwau lleoedd Cymraeg yn dilyn teithi'r iaith ac
yn treiglo. Bydd arnoch angen o leiaf wybodaeth waith led dda o'r patrymau
ffonolegol hyn er mwyn cyrchu holl amrywiadau posibl elfen. Er enghraifft,
i gyrchu pob esiampl o coch, bydd yn rhaid i chi hefyd
ofyn am goch; am bach, hefyd fach;
am gwaun, hefyd waun; am pen,
hefyd ben; celli, hefyd gelli;
ma-, hefyd -fa; Cybi,
hefyd -gybi, ac yn y blaen. Byddwch yn ofalus
gyda lan gan ei fod yn amrywiad o glan
ac o llan. Mewn llawer achos, mae'n debyg y bydd y chwiliad
cadwyn yn nodi'r rhan fwyaf o'r amrywiadau perthnasol. Mae
rhestr safonol o amrywiadau yn Bruce Griffiths, Dafydd Glyn Jones, Geiriadur
yr Academi, The Welsh Academy English-Welsh Dictionary (Gwasg Prifysgol
Cymru, Caerdydd, 1995), xxviii-xlii.
Amrywiadau ffurfdroedig
Rhaid i chi fod yn ymwybodol o amrywiadau ffurfdroedig.
Felly (g)wyn a'r ffurf fenywaidd (g)wen,
coch a'r lluosog cochion, du
a duon. Bydd y chwiliad cadwyn yn nodi'r rhan fwyaf o'r
amrywiadau lluosog perthnasol a nifer o'r ffurfiau benywaidd. Mae rhestr
safonol yn Geiriadur yr Academi xlii-xliii.
Amrywiadau sillafu
Gwreiddiodd rhai sillafiadau ansafonol, sy'n aml yn adlewyrchu
amrywiadau tafodieithol, mewn enwau lleoedd megis cadair
fel Cader, isaf fel Isa, tref
fel tre, (g)waun fel waen. Mae'n
debyg y bydd y chwiliad cadwyn yn nodi'r rhan fwyaf o'r amrywiadau perthnasol.
Gair o rybudd
Ystod yr Archif
Nid casgliad cyflawn o holl enwau lleoedd yw hwn, ac nis
bwriadwyd felly erioed. Archif ydyw o'r hyn y medrodd un dyn gasglu yn
ystod ei oes. Nid oedd modd yn y byd i Melville Richards ddod ar draws
yr holl ddogfennau oedd ar gael i rywun fyddai'n gweithio ar un plwyf,
cwmwd neu sir; ni chynrychiolir pob rhan o Gymru gyda'r un manyldra. Nid
yw'r slipiau yn cynnig tarddiad enwau.
Trawsgrifio
Yr oedd llawysgrifen ddestlus gan Melville Richards. Fodd
bynnag, ar rai adegau, yn enwedig wrth drawsgrifio enwau anghyfarwydd
i mewn i AMR, cododd peth ansicrwydd
- wrth wahaniaethu rhwng y llythrennau
i, u, v, n, r, m, nn, nr, ri, J, L
- wrth wahaniaethu rhwng 5 a 8
- wrth wahaniaethu priflythyren oddi wrth lythyren fechan ar ddechrau
gair
- wrth bennu union raniad rhwng geiriau, gan gynnwys prif enwau
- wrth wahaniaethu ei lythyren d arbennig ef oddi
wrth y symbol yr arferai llawer o ysgolheigion Cymreig
ddefnyddio ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed fel llawfer gyfleus
am dd.
Pan ddewch ar draws yr hyn sy'n edrych fel gwrthdaro rhwng tystiolaeth
ddogfennol arall, cynghorir chi i edrych ar y slip ei hun neu'r ddogfen
wreiddiol i ffurfio'ch barn eich hun am y darlleniad cywir.
Safoni
Yr oedd llawer o ddogfennau canoloesol yn defnyddio sawl
symbol
i gynrychioli'r ch Gymraeg. Dyna wnaeth Melville
Richards ond mae AMR wedi eu trawsgrifio fel z
; yn ddieithriad, bron, bydd y cyd-destun yn dangos lle mae z
yn cynrychioli ch.
Ni allai'r rhaglen wreiddiol roi acen grom ar yr w, W,
y ac Y. Mae gan y rhaglen ddiweddarach
acen grom ar y llythrennau bach ond nid ar y priflythrennau.
Ymddengys Dôl a dôl o bryd i'w gilydd fel Dol a dol,
anghysondeb annodweddiadol nad yw byth yn ymddangos yng nghyhoeddiadau
Melville Richards. Cadwodd AMR yr anghysondeb.
Lle bo gwahaniaethau o'r fath yn allweddol i'r dehongli ieithegol,
y cyngor gorau yw archwilio'r slip ei hun neu'r ddogfen wreiddiol.
Prif enw
Yn y rhaglen wreiddiol, rhaid oedd i'r prif enw fod mewn
priflythrennau, confensiwn y bu'n rhaid ei gadw. Rhaid bod yn ofalus
felly wrth ddyfynnu enwau mewn ffurf safonol, yn enwedig os yw'n dilyn
cysylltnod (fel bod BETWS-Y-COED yn Betws-y-coed, TON-TEG
yn Ton-teg ond LLANDRILLO-YN-RHOS yn Llandrillo-yn-Rhos
a MOEL Y GAER yn Moel y Gaer). Mae'r ffurfiau safonol
o enwau lleoedd Cymru i'w gweld yn Elwyn Davies, Rhestr o Enwau Lleoedd
(Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1957, 1975).
Lleoliad
Nododd Melville Richards leoliad gweinyddol lle pan oedd yn hysbys
iddo neu yn amlwg o'r dystiolaeth ddogfennol. Fodd bynnag, nodwyd yr
uned weinyddol yn amrywiol fel trefgordd, plwyf eglwysig neu sifil, dosbarth
gwledig neu drefol, bwrdeistref sirol, cwmwd, cantref, arglwyddiaeth
neu sir. Wrth gynllunio ymchwiliad, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r
categorïau gweinyddol Plwyf a Sir. Cyfeirlyfr defnyddiol yw Melville
Richards, Welsh
Administrative and Territorial Units (Gwasg Prifysgol Cymru,
Caerdydd, 1969).
Ar adegau, gydag enwau cyfarwydd iawn, ni chynigwyd lleoliad.
Ffynonellau
Nid yw'r dyfynnu wastad yn gyson, felly gall cyfeiriadau
at yr un papurau Mostyn fod yn Mostyn a FRO Mostyn.
Mae rhai ffynonellau dogfennol eto i'w hadnabod (gweler uchod).
Diwygiodd rhai archifdai catalogau a rhestri ers 1973.
Weithiau, mae slip yn cynnwys ffurf a ddilynnir, nid gan dystiolaeth
ddogfennol primaidd, ond gan gyfeiriad at erthygl neu lyfr. Ni ddylid
ei ystyried yn ffurf hanesyddol.
Cywiriadau
Dylai defnyddwyr roi gwybod i ni bob tro am unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau
angenrheidiol.
|