Delir y gronfa ddata a geir ar y wefan hon gan Brifysgol Bangor (PB) mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Digideiddio’r
Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHDS). Adwaenir y gronfa ddata fel
Archif Melville Richards, ac AMR yw’r talfyriad.
Rhaid cydnabod cyrchu’r gronfa ddata ac unrhyw ddefnydd a wneir
ohoni. Dyma isafswm geiriad y gydnabyddiaeth:
Yr wyf i/ydym ni yn cydnabod defnydd o archif ymchwil enwau lleoedd
yr Athro Melville Richards ym Mhrifysgol Bangor, a gyrchwyd
trwy gronfa ddata Archif Melville Richards(AMR), prosiect a gyllidwyd
trwy grantiau gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru a Bwrdd
Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Delir hawlfraint archif yr Athro Melville Richards o bapurau ymchwil,
llyfrau nodiadau a slipiau gan ysgutorion stad yr Athro Richards.
Rhoes yr ysgutorion ganiatâd i PB ganiatáu mynediad
at y defnydd enwau lleoedd a gedwir yn PB ac at y
fformat a ddigidwyd (AMR).
Rhybudd: Diogelir y gronfa ddata hon gan ddeddf
hawlfraint a chytundebau rhyngwladol. Os bydd unrhyw un yn dyblygu
neu yn dosbarthu’r rhaglen hon (neu ran ohoni) heb fod yn unol
â’r telerau a’r amodau, a/neu heb y gydnabyddiaeth
uchod, gall fod yn agored i gosb droseddol neu sifil ddifrifol, ac
fe’i herlynir i’r eithaf posibl dan y gyfraith. Daw’r
cytundeb hwn dan Gyfraith Lloegr a Chymru.