Enwau Nodweddion Arfordirol Cymru

 

Cefndir

Mae enwau nodweddion arfordirol Cymru yn cynnwys enwau baeau, traethau, creigiau a throbyllau. Mae llawer o’r rhain heb eu cofnodi’n drefnus, ac mae’n gallu bod yn anodd cael hyd i wybodaeth amdanynt yn y llyfrau safonol ar enwau lleoedd Cymru. O’r holiadau  a ddaw i mewn i'r gwasanaeth ar-lein Enwau Cymru, dyma'r dosbarth o enwau sydd i weld yn peri’r trafferth mwyaf i gyfieithwyr a gweinyddwyr dwyieithog.

Er mwyn llenwi rhywfaint ar y bwlch hwn, felly, enwodd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sy’n cynnal a datblygu gwefan Enwau Cymru, y dasg o ymchwilio i’r enwau hyn fel un o’r tasgau y byddent yn ei chyflawni gyda chymorth grant Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn ariannol 2008-2009. Y mae’r enwau hynny bellach wedi cael eu hychwanegu at yr enwau yn y gronfa ddata ar-lein, a rhoddir yma rhywfaint o gefndir yr ymchwil.

 

Methodoleg

Cam cyntaf y gwaith oedd creu rhestr bwrpasol o enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â nodweddion daearyddol arfordirol yng Nghymru. I’r perwyl hwn, trowyd at fapiau 1:25 000 yr Arolwg Ordnans, sef y ffynhonnell fwyaf cyflawn a hygyrch o enwau lleoedd arfordirol a oedd ar gael i ni. Codwyd yr enwau dan sylw ynghyd â’u cyfeirnodau grid i gronfa ddata electronig a fyddai, ar ddiwedd y project, yn cael ei hychwanegu at y gronfa ddata enwau lleoedd gynhwysfawr a geir ar-lein ar wefan Enwau Cymru.

Ail gam y project oedd gwirio cywirdeb yr enwau Cymraeg, o ran orgraff a derbynioldeb y ffurfiau a gofnodwyd. Nodir y meini prawf a ddilynwyd wrth wneud hynny isod.

 

Safoni enwau: ffurfiau Saesneg

Nid oedd ffurfiau Cymraeg yn bodoli ar gyfer pob nodwedd arfordirol ar fapiau’r Arolwg Ordnans.  Lle nad oedd enw Cymraeg yn bodoli, codwyd yr enw Saesneg, ynghyd â’i gyfeirnod grid, a’i gynnwys yn y gronfa ddata fel yr oedd. Ymchwiliwyd ymhellach i sicrhau bod enwau Cymraeg cyfatebol yn cael eu nodi os oeddent yn bodoli (gw. Safoni enwau:  nodweddion daearyddol ag iddynt enw Cymraeg ac enw Saesneg isod).

 

Safoni enwau: ffurfiau Cymraeg

Wrth safoni’r enwau Cymraeg yn y gronfa, dilynwyd canllawiau Tîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Edrychwyd hefyd ar y Rhestr o Enwau Lleoedd gan Elwyn Davies, sy’n cynnwys crynodeb defnyddiol o rai o’r confensiynau orgraffyddol cyfredol sydd yn arbennig o berthnasol i enwau lleoedd (gw. tt. xiii-xv).

 

Ffurfiau heb eu newid

Yr oedd y rhan fwyaf o’r enwau Cymraeg yn y gronfa yn cydymffurfio â’r safonau orgraffyddol cyfredol. Ni fu angen newid dim ar y rhain.

 

Safoni acenion

Cafwyd llond llaw o enwau a oedd yn cynnwys enghreifftiau o arferion acennu ansafonol, ac fe’u newidiwyd i gydymffurfio â chonfensiynau orgraffyddol cyfredol yr iaith, un unol â chanllawiau’r Bwrdd. Ymhlith yr enwau hyn ceir y canlynol:

Allt Gôch (SN2452) > Allt Goch
Bay Ogof Hên (SM7025) > Bae Ogof Hen
Ogof Gôch (SH1426) > Ogof Goch
Ogof y Ffôs (SM7724) > Ogof y Ffos
Porth Sûr (SH3271) > Porth Sur
Porth y Wrâch (SH1630) > Porth y Wrach
Traeth Bâch (SN1045, SH5736) > Traeth Bach

 

Safoni rhaniad geiriau a’r defnydd o gysylltnodau

Y mae’r defnydd o gysylltnodau mewn enwau lleoedd Cymraeg yn arbennig o broblemus. Yn achos enwau pentrefi, trefi a dinasoedd, er enghraifft, yr yr egwyddor arferol yw ceisio ysgrifennu enwau lleoedd yn un gair, a defnyddio cysylltnod i ddangos lleoliad yr acen os oes angen. Fodd bynnag, gyda nodweddion daearyddol, mae egwyddor orgraffyddol arall sy’n weithredol, sef bod enwau disgrifiadol, fel aber, bae, carreg, craig, llech, maen, ogof, penrhyn, traeth, ynys, a geir yn elfen gyntaf mewn enw ar nodwedd ddaearyddol, i’w hysgrifennu fel geiriau ar wahân (Rhestr o Enwau Lleoedd, t. xiii).

Yr oedd cryn anghysondeb i’w weld yn orgraff y nodweddion hyn ar fapiau’r Arolwg Ordnans, gydag enwau cyffredin megis Borth Wen/Borthwen a Porth Llong/ Porth-llong yn cael eu hysgrifennu yn y ddau ddull.  Cysonwyd y rhain yn unol â’r egwyddor o’u hysgrifennu fel dau air ar wahân. Felly, er enghraifft, newidiwyd
Borthwen (SH2774) yn Borth Wen a Borth-wen (SH5283) yn Borth Wen yn yr un modd, ond gadawyd Borth Wen (SH2741) fel yr oedd, gan ei fod eisoes yn cydymffurfio â’r safon orgraffyddol cyfredol. Newidiwyd Carn Porth-llong (SM7228) yn Carn Porth Llong, a Maen Porth-llong (SM7328) yn Maen Porth Llong, ond unwaith eto, gadawyd Porth Llong (SM7328) heb ei newid.

 

Safoni acenion a rhaniad geiriau

Cafwyd rhai enghreifftiau lle roedd acenion ansafonol a chysylltnodau nad oedd yn cydymffurfio â’r safonau cyfredol yn digwydd o fewn yr un enw. Mewn achosion felly, cywirwyd y ddeubeth yr un pryd. Enghreifftiau o hyn yw:

Careg-fâch (SS5197) > Carreg Fach
Careg-y-Fran (SM9940) > Carreg y Frân
Pen Traeth-bâch (SN2651) > Pen Traeth Bach

 

Cysoni â’r ffurfiau cydnabyddedig ar enwau lleoedd eraill

Os oedd enw nodwedd ddaearyddol yn cynnwys ffurf ansafonol ar enw lle a oedd eisoes wedi’i gynnwys yng nghronfa Enwau Cymru, fe’i newidiwyd i gyd-fynd â’r enw lle hwnnw. Er enghraifft:

Bae Abermaw (SH5914) > Bae Abermo

 

Safoni enwau: nodweddion daearyddol ag iddynt enw Cymraeg ac enw Saesneg

Mae enw Cymraeg ac enw Saesneg wedi’u cofnodi ar gyfer nifer o’r nodweddion daearyddol sydd wedi’u henwi ar fapiau Arolwg Ordnans. Mewn achosion o’r fath, mae’r ddwy ffurf wedi’u cynnwys yn y gronfa. Ambell dro, bu angen newid y ffurf Gymraeg i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â safonau cyfredol orgraff yr iaith. Er enghraifft:

Pen-Caer (Strumble Head) (SM8941) > Pen Caer

Eto, dylid nodi bod nifer sylweddol o enwau Cymraeg nad ydynt wedi’u cynnwys ar fapiau Arolwg Ordnans. Mewn achosion o’r fath defnyddiwyd y Rhestr o Enwau Lleoedd a Geiriadur yr Academi i geisio cyfannu’r darlun rhannol hwn.

Yn ychwanegol at hyn cyfieithwyd yr elfennau yn ymwneud â nodweddion arfordirol  mewn enwau Saesneg lle byddai’n chwithig eu gadael heb eu newid wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Gwnaed hyn yn bennaf ag enwau sy’n dilyn y patrwm enw nodwedd arfordirol + enw lle. Er enghraifft:

Barafundle Bay > Bae Barafundle
Watwick Point > Trwyn Watwick

Port-Eynon Bay > Bae Port Einon
Tanybwlch Beach > Traeth Tan-y-bwlch

Barry Harbour > Harbwr y Barri
Manorbier Bay > Bae Maenorbŷr
Marros Sands > Traeth Marchros
Newgale Sands > Traeth Niwgwl

Llyfryddiaeth:

Davies, Elwyn, Rhestr o Enwau Lleoedd: A Gazetteer of Welsh Place-Names (Caerdydd, 1967, ailargraffiad 1989)
Griffiths, Bruce and Jones, Dafydd Glyn, Geiriadur yr Academi: The Welsh Academy English-Welsh Dictionary (Caerdydd, 1995, 6ed argraffiad 2006)