Lluniwyd gan Delyth Prys, J P M Jones, Owain Davies, Gruffudd Prys, gyda chefnogaeth dechnegol Dewi Bryn Jones ac Ambrose Choy.
Mae hwn yn un o brojectau Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, i ACCAC (bellach Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru).
Y Termiadur (Llyfr a CD)
Cyhoeddwyd Y Termiadur yn un pecyn ar bapur ac ar CD yn 2006. Olynydd
ydyw i Y Termiadur Ysgol a gyhoeddwyd gan ACCAC yn 1998. Mae modd prynu neu archebu Y Termiadur yn eich siop lyfrau leol. Nid yw ar gael yn uniongyrchol o Ganolfan Bedwyr na Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Y Termiadur Ar-lein
Paratowyd fersiwn ar-lein hefyd o Y Termiadur. Mae hwn yn caniatáu i
chi deipio term i mewn yn y blwch chwilio yn Gymraeg neu yn Saesneg, a
chael y cyfieithiad ohono. Yn Gymraeg, mae modd i chi deipio i mewn
ffurfiau treigledig a/neu ffurfiau lluosog geiriau, a berfau wedi'u
rhedeg, a chael y ffurf gysefin sy'n ymddangos yn Y Termiadur, ynghyd
â'r cyfieithiad Saesneg. Er enghraifft, os teipiwch chi 'dyfodd' yn y
blwch chwilio, mae'n cael hyd i 'tyfu' ac yn rhoi'r Saesneg cyfatebol
'grow' i chi.
Cliciwch yma i gael at Y Termiadur ar-lein.
Y Termiadur ar eich Ffôn Symudol
Bellach, mae Y Termiadur
ar gael hefyd i'w lwytho i lawr i'ch ffôn symudol. Cliciwch yma er mwyn cael mwy o gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn .
Canllawiau
Mae'r fersiwn papur hefyd yn cynnwys adran werthfawr yn nodi rhai
canllawiau ar gyfer defnyddwyr. Mae modd i chi ddarllen y rhain ar-lein hefyd
drwy glicio yma.
Adborth
Er mwyn gwella Y Termiadur a pharhau i ychwanegu ato byddem yn
ddiolchgar petai defnyddwyr, ac yn enwedig athrawon a chyfieithwyr, yn
rhoi gwybod i ni am unrhyw dermau anfoddhaol, neu dermau na chynhwyswyd
hyd yn hyn drwy ddefnyddio'r ffurflen adborth. Er mwyn gwneud hyn bydd
angen i chi gofrestru eich diddordeb, a gallwch wneud hyn drwy glicio
yma. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddiweddaru Y Termiadur yn rheolaidd,
a rhoi gwell gwasanaeth i bawb.