Ymholiad


Bwriad y safle hwn yw darparu adnodd hwylus lle y gallwch wirio a oes enw Cymraeg yn bodoli ar gyfer enw lle Saesneg, neu enw Saesneg yn bodoli ar gyfer enw lle Cymraeg.

Mae'r safle wedi ei seilio ar gronfa ddata ryngweithiol y mae modd ei chwilio'n hawdd. Pan fydd cofnodion perthnasol yn cael eu canfod, bydd diffiniad, gwybodaeth leoli (enw'r plwyf, y sir, a'r awdurdod unedol) yn ogystal â chyfeirnod grid yn cael eu darparu.

Pan na fydd cofnod perthnasol yn cael ei ganfod, bydd modd llenwi ffurflen er mwyn gyrru ymholiad am enwau sydd heb eu cynnwys yn y gronfa ddata atom yng Nghanolfan Bedwyr. Byddwn yna'n chwilio am ateb o fewn adnoddau archifol presennol y Ganolfan Enwau Lleoedd.

Lle bydd y wybodaeth ar gael o fewn yr archif, bydd yr ymholydd yn derbyn ateb o fewn dau ddiwrnod gwaith a bydd y wybodaeth yn cael ei hychwanegu at y gronfa ddata ryngweithiol. Os na cheir ateb yn adnoddau archifol y Ganolfan, bydd neges i'r perwyl hwnnw yn cael ei dychwelyd i'r ymholydd a bydd yr ymholiad yn cael ei storio ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

 

Gair am y ffurfiau

Argymhellion yn unig yw'r ffurfiau ar enwau lleoedd sydd i'w cael yma. Nid yw'r wefan hon yn ymgais i ddeddfu pa ffurf sydd yn gywir neu yn anghywir.

Ar hyn o bryd, dinasoedd, trefi, pentrefi a plwyfi sydd wedi eu cynnwys yn y gronfa ddata. Nid yw eto'n holl-gynhwysfawr; mae mwy o gofnodion yn cael eu hychwanegu i'r gronfa yn gyson. Bydd enwau afonydd mynyddoedd a nodweddion tirweddol eraill yn cael eu hychwanegu'n fuan. Ychwanegwyd swp o enwau arfordirol ar y 31fed o Fawrth 2009, ac fe geir gwybodaeth am gefndir y gwaith hwn a'r fethodoleg a ddefnyddwyd ar y dudalen Enwau Nodweddion Arfordirol Cymru.

Wrth lunio'r rhestr cyfeiriwyd at sawl ffynhonell wahanol ac oherwydd nad oedd y ffurfiau wastad yn gyson o ffynhonell i ffynhonell, rhaid oedd dewis rhyngddynt. O ganlyniad, wrth ddewis y ffurfiau i'w hargymell, dilynwyd canllawiau Tîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg (isod) hyd y bo modd:

Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd

1. Orgraff safonol

Dylid cydymffurfio ag egwyddorion cyfredol orgraff safonol yr iaith Gymraeg. Mae Tîm Safoni Enwau Lleoedd y Bwrdd yn cydnabod mai Geiriadur Prifysgol Cymru sy’n gosod safon orgraff yr iaith Gymraeg a dylid glynu at ffurfiau’r Geiriadur lle bo modd. Fodd bynnag, mae’r Tîm wedi argymell defnyddio acen grom mewn rhai enwau – yn groes i arfer yr orgraff – er mwyn osgoi amwyster a sicrhau ynganiad cywir (Yr Hôb, Aberbîg).

2. Rhestr o Enwau Lleoedd

Dylid cydnabod, fel man cychwyn, y ffurfiau a argymhellir yn Elwyn Davies, Rhestr o Enwau Lleoedd/A Gazetteer of Welsh Place-Names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967) ynghyd ag argymhellion blaenorol Tîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y Rhestr o Enwau Lleoedd hwn (neu’r 'Gazetteer' fel y gelwir ef yn aml) yw’r cyfeirlyfr safonol cenedlaethol i orgraff enwau lleoedd Cymru. Mae angen rheswm da dros fynd yn groes iddo. Serch hynny, tyfodd treflannau, maestrefi a threfi er 1967 ac mae’r hinsawdd ieithyddol heddiw yn wahanol, felly mae gofyn i’r Tîm ddehongli ffurfiau’r Gazetteer. Ymgais yw’r ddogfen hon i ffurfioli a dehongli’r confensiynau sydd yn y Gazetteer.

3. Cysylltnod

  • Yn y Gymraeg mae’r brif acen fel arfer yn syrthio ar y goben (sillaf olaf ond un gair) a dylid cymryd yn ganiataol mai aceniad gobennol sydd i enw lle fel arfer (Rhymni, Tyddewi, Rhydyclafdy, Rhosllannerchrugog, Penyberth, Moelyci).
  • Defnyddir y cysylltnod mewn geiriau cyfansawdd pan nad yw’r acen yn syrthio ar y goben. Felly os y sillaf olaf sydd yn cynnal y brif acen, defnyddir cysylltnod er mwyn dangos hynny’n glir i'r darllenydd (Aber-erch, Aber-cuch).
  • Defnyddir y cysylltnod hefyd pan fo’r fannod (y/yr) yn dod o flaen elfen olaf unsill enw lle. Mewn enwau o'r fath mae angen cynnwys cysylltnodau cyn ac ar ôl y fannod er mwyn dangos yr elfennau unigol a hwyluso ynganiad (Betws-y-coed, Porth-y-rhyd). Sylwer mai ar ôl y fannod yn unig y defnyddir cysylltnodau os ’r yw ffurf y fannod sy’n digwydd o flaen elfen olaf unsill (Troedrhiw'r-clawdd, Islaw’r-dref).
  • Mae eithriadau fodd bynnag, sef yr enwau hynny sydd wedi hen ennill eu plwyf yn genedlaethol (Llandaf, Caerdydd, Llanrug, Llanrwst, Penarth, Torfaen, Pontypridd).
  • Yn yr un modd, nid oes angen cysylltnod i ddynodi pwyslais ar y sillaf olaf, lle bo marc diacritig arall yn gwneud hyn eisoes (Llandygái, Caersŵs, Aberdâr, Pentredŵr). Eithr mae angen cysylltnod mewn enwau o'r fath sy’n cynnwys y fannod o flaen elfen unsill (Llannerch-y-môr).

4. Un gair neu fwy?

    • Mae’n arferol ysgrifennu enw anheddiad yn un gair er mwyn gwahaniaethu rhwng aneddiadau (Nantperis) a nodweddion tirweddol (Nant Peris).
    • Os yw enw anheddiad yn cynnwys dwy acen neu ragor, cyfunir yr elfennau gan gadw -n- neu -r- ddwbl yr elfennau (Ffynnon+groyw = Ffynnongroyw, Rhos+llannerch+rugog = Rhosllannerchrugog (nid Ffynongroyw, Rhosllanerchrugog)).
    • Mae enwau sy'n cynnwys yr elfen pentre(f) yn cael eu hysgrifennu’n un gair (Pentrefelin) gan mwyaf. Fodd bynnag, mae’n gonfensiwn eu hysgrifennu’n ddau air os yw'r ail elfen yn cyfeirio at safle cydnabyddedig neu enw priod (Pentre Saron, Pentre Tafarnyfedw).
    • Mae confensiwn hefyd yn cydnabod rhannu rhai elfennau eglwysig yn yr un modd (Betws Garmon, Eglwys Gymyn, Capel Bangor).
    • Dylid rhoi priflythyren o fewn enw lle os yw’n cynnwys enw ar ardal, anheddiad neu nodwedd ddaearyddol arall (Llanfihangel-y-Pennant, Betws-yn-Rhos).

    5. Enwau Personol

    Dylid ystyried tystiolaeth ffurf enw personol pan fo hynny’n gymorth wrth drafod orgraff (Llan-non, Pochin, Cei Connah). Ond noder yr eithriad Morriston/Treforys.

    6. Bathiadau

    Dylid ymwrthod â ffurfiau pedantig, adferiadau hynafiaethol, trosiadau neu gyfieithiadau llythrennol a bathiadau mympwyol oni bai bod tystiolaeth i’r ffurf ennill ei phlwyf yn lleol ac yn genedlaethol (Brychdyn, Cei Connah, Cil-y-coed).

    7. Tafodiaith

    Dylid ystyried tystiolaeth dafodieithol neu arferiad lleol wrth drafod sillafu, ynganu ac aceniad, yn arbennig os yw ffurf leol wedi ennill ei phlwyf yn genedlaethol (Dole, Pencader, Cwm Cou, Froncysyllte). Eithr dylid glynu at yr orgraff safonol hyd y bo modd, gan gofio bod yr enwau’n perthyn i Gymru gyfan, a bod enw, neu ran o enw efallai, yn ymddangos mewn sawl rhan o Gymru (Cadair [Idris], Blaenau [Gwent], Y Waun).

    8. Ffurfiau deuol

    Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a’r ffurf ‘Seisnig’, gan dueddu at y ffurf Gymraeg. Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau’r Priffyrdd. Eithr dylid cydnabod amrywiadau sefydlog (Caeriw/Carew, Biwmares/Beaumaris, Y Fflint/Flint, Wrecsam/Wrexham).

    9. Y fanod (y/yr/'r)

    • Mae’r fannod yn elfen annatod o rai enwau (Yr Wyddgrug, Y Drenewydd).
    • Mae’r arfer o gynnwys y fannod yn newid ac nid yw bob amser yn cael ei hystyried yn rhan annatod o enwau lleoedd ac ni ddefnyddir hi ym mhob cyd-destun (y Tymbl, y Gaerwen). Fodd bynnag, yn yr enghreifftiau hyn defnyddir y fannod yn amlach na pheidio mewn ymadrodd (mynd i'r Borth).
    • Er mai mater anodd yw cytuno a yw’r fannod yn rhan annatod o'r enw ynteu a yw'n digwydd mewn ymadrodd yn unig, cred y Tîm fod rhinwedd mewn bod yn geidwadol a’i chynnwys yn rhan annatod o’r enw safonol pe na bai ond er mwyn cynnig arweiniad (i’r Bala yn hytrach nag i Fala). Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i rai nad yw’r Gymraeg yn famiaith iddynt.
    10. Y didolnod ar 'i' acennog yn y goben

    Lle mae’r elfen olaf yn ddeusill, nid oes angen didolnod (Caerllion, Llanrhian, Llwynypia) oni bai bod yr ynganiad yn amwys (Gïas, Llangïan (cf. gïau)); os yw’r elfen olaf yn hwy na deusill, mae angen didolnod (Cwmsyfïog, Llandybïe).

     

Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor
Datblygwyd gyda chymorth grant gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg