Beth yw Cysgliad?
Pecyn meddalwedd ar gyfer eich cyfrifiadur PC yw Cysgliad. Mae dwy brif raglen yn rhan o’r pecyn, sef:
Cysill
Rhaglen sy’n canfod ac yn cywiro camgymeriadau ieithyddol mewn dogfennau Cymraeg yw
Cysill. Mae’n gallu adnabod camgymeriadau teipio, sillafu a gramadeg, gan gynnwys camdreiglo. Yn ogystal ag awgrymu cywiriadau lle bo’u hangen, yn achos camgymeriadau gramadegol mae’n egluro natur y gwall er mwyn eich helpu i osgoi’r gwall yn y dyfodol.
Mae Cysill hefyd yn cynnwys geiriadur llygoden, sef nodwedd sy'n dangos cyfieithiad o air mewn testun pan fyddwch chi'n cadw'r pwyntydd uwch ei ben.
Mae Cysill hefyd yn cynnwys thesawrws sy’n eich helpu i ganfod geiriau gwahanol gydag ystyron tebyg – ffordd berffaith o gynyddu eich geirfa!
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Cysill
Cliciwch yma i ddarllen llawlyfr ar-lein Cysill
Cysgeir
Rhaglen arall sydd i’w chael o fewn Cysgliad yw Cysgeir, sef casgliad o nifer o eiriaduron gwahanol ar ffurf electronig cyfleus. Mae’n cynnwys cannoedd ar filoedd o gofnodion, ond eto mae’n hawdd dod o hyd i’r cofnod perthnasol yn gyflym diolch i’w ryngwyneb clyfar, cyfeillgar.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Cysgeir
Cliciwch yma i ddarllen llawlyfr ar-lein Cysgeir
Cydweithio gyda Microsoft Word, Open Office.org a rhaglenni eraill
Gall Cysill a Cysgeir weithio fel rhaglen annibynnol neu o fewn Microsoft Word (gan gynnwys Word 2007) neu Open Office.org 2.3 ar ffurf botymau ar y bar offer.
Gall y ddwy raglen hefyd gydweithio gyda rhaglenni golygu testun eraill gan ddefnyddio bysellau brys sy’n hwyluso symud testun o un rhaglen i’r llall.
Gofynion System Cysgliad
Mae Cysgliad yn addas ar gyfer cyfrifiaduron PC yn rhedeg ar Windows 98/NT/2000/ME/XP a Vista.
Cysgliad i'r Mac

Mae Cysgliad yn awr ar gael ar y Mac.
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Cysgliad i'r Mac.
.| 22 Hydref 2008, 11:37:30 |
| Diweddariadau Cysill a Cysgeir, Hydref 2008 |
| Yn dilyn ein diweddariad ar gyfer Cysill 3.0 , mae diweddariad o fersiwn cartref Cysgeir 1.0 nawr hefyd ar gael. Os nad yw Cysgeir ei hun wedi eich hysbysu o’r diweddariad, yna dewiswch o’r brif ddewi..... |
| Rhagor... |

Murmur yw blog yr Uned Technolegau Iaith, lle cewch ddarllen am waith diweddaraf yr uned. Cliciwch yma i fynd yno.