Cysgliad
English
Llawlyfr Cysgliad

Cwestiynau

Beth yw Cysgliad ?

Ar gyfer pa fersiwn o Windows mae Cysgliad ?

A yw Cysill 3 neu Cysgeir yn gweithio ar gyfrifiadur Apple Mac ?

A yw Cysill 3 neu Cysgeir yn gweithio ar gyfrifiadur Linux ?

A oes modd rhedeg Cysgliad dros rwydwaith ?

Ble medraf i brynu Cysgliad ?

Ble gallaf i gael hyfforddiant i ddefnyddio Cysgliad ?

Beth yw diweddariad i Cysgliad ?

A oes modd cael diweddariad i hen fersiynau o Cysill / CysGair ?

Sut gallaf i gael diweddariad i Cysgliad ?

Problemau wrth ddefnyddio Cysgliad

Rwyf wedi gosod Cysgliad ond fedraf i ddim gweld sut mae defnyddio'r feddalwedd o raglen Word

Mae'r botymau 'Cysgeir' a 'Gwirio'r Ddogfen' wedi diflannu o far offer Word

Sut gallaf i osod y botymau ar far offer Microsoft Office ?

Mae ffenest yn ymddangos o fewn Word yn rhybuddio bod gwall ar y ffeil cysill.dot

Gyda pha raglenni gallaf i ddefnyddio Cysgliad ?

Mae fy nghyfrifiadur yn chwalu wrth ddefnyddio Cysill 3 / Cysgliad

Cefais neges rybudd gan Windows yn cwyno am "MAPI"

 

Os nad yw eich problem i'w gweld yma, neu os ydi'r broblem yn parhau, cysylltwch â ni yma yn Nghanolfan Bedwyr., gan gofio cynnwys eich rhif cofrestru Cysgliad


Atebion

Beth yw Cysgliad ?

Cysgliad yw'r pecyn meddalwedd gan Ganolfan Bedwyr sy'n cynnwys:


Ar gyfer pa fersiwn o Windows y mae Cysgliad ?

Mae Cysgliad yn rhedeg ar Windows 98 / NT / 2000 / ME / XP a Vista.


A oes modd rhedeg Cysgliad dros rwydwaith ?

Oes.  Cysylltwch â Chanolfan Bedwyr yn uniongyrchol am ragor o fanylion . Rhowch ganiad i Judith ar 01248 383 293 neu anfonwch
e-bost at:   meddalwedd@bangor.ac.uk

Yn ôl at y cwestiynau

Ble medraf i brynu Cysgliad ?

Mae fersiwn cartref Cysgliad ar gael o Ganolfan Bedwyr:

ffôn: 01248 383293 | ebost: cbs602@bangor.ac.uk

Mae hefyd i'w gael mewn siopau llyfrau Cymraeg da ac ar wefannau Sain ac Omega First.

Mae'r fersiwn rhwydwaith i'w gael o Ganolfan Bedwyr yn unig. Cysylltwch â Judith ar:

ffôn: 01248 383293 | ebost: cbs602@bangor.ac.uk

Yn ôl at y cwestiynau

Ble gallaf i gael hyfforddiant i ddefnyddio Cysgliad ?

Mae Canolfan Bedwyr yn darparu cwrs hyfforddi ar gyfer defnyddwyr Cysgliad.  Os hoffech chi gael arweiniad ar ddefnyddio'r pecyn yn effeithiol, cysylltwch â:

Safle'r Normal, Bangor, Gwynedd LL57 2PX
ffôn: 01248 383293 | ebost: cbs602@bangor.ac.uk

 

Yn ôl at y cwestiynau

Beth yw diweddariad i Cysgliad ?

 

Mae Canolfan Bedwyr yn darparu diweddariadau i’r pecyn Cysgliad o bryd i’w gilydd. Mae’r diweddariadau i’w cael am ddim drwy’r we. Yn ogystal â chywiriadau technegol, maent yn cynnwys geiriau newydd i eiriadur Cysgeir a geiriaduron termau newydd ac ychwanegiadau rheolau gramadeg i’r rhaglen Cysill 3.

Yn ôl at y cwestiynau

A oes modd cael diweddariad i hen fersiynau o Cysill / CysGair ?

 

Nac oes. Disodlwyd CySill 2.1 a CysGair 2 fel pecynnau ar wahân gan y pecyn newydd Cysgliad a gyhoeddwyd yn 2004. Dim ond y pecyn Cysgliad sy’n cael ei gynnal a’i ddiweddaru gan Ganolfan Bedwyr.

Yn ôl at y cwestiynau

Sut gallaf i gael diweddariad i Cysgliad ?

 

Os y fersiwn cartref o Cysgliad sydd gennych, mae modd i chi wneud hyn drosoch eich hun. Os ydych yn defnyddio’r fersiwn rhwydwaith yn eich gweithle, bydd eich gweinyddwr systemau neu adran TG yn gyfrifol am sicrhau diweddariadau ar eich cyfrifiadur. Mae Cysill a Cysgeir yn cael eu diweddaru ar wahân ar eich system.

Diweddaru Cysill

1. Gwnewch yn siŵr bod y cyfrifiadur wedi’i gysylltu â’r we.

2. Agorwch y rhaglen Cysill. Bydd Cysill yn dweud os oes diweddariad ar gael yn awtomatig, ac yn gofyn am eich caniatâd cyn gosod y diweddariad ar eich cyfrifiadur.

3. Os ydych am chwilio am ddiweddariad â llaw, cliciwch ar y ddewislen ‘Help’ a dewis ‘Chwilio am ddiweddariad’.

4. Os bydd diweddariad ar gael bydd Cysill yn cynnig ei lwytho i lawr o’r we ac yn eich arwain drwy’r broses o osod y diweddariad.

5. Caewch y rhaglen Cysill.

Diweddaru Cysgeir

Gall Cysgeir, fel Cysill, eich hysbysu’n awtomatig, os oes diweddariad ar gael.

1. Gwnewch yn siŵr bod y cyfrifiadur wedi’i gysylltu â’r we.

2. Agorwch y rhaglen Cysgeir.

3. Os ydych am chwilio am ddiweddariad â llaw, cliciwch ar y ddewislen ‘Ymddangosiad’ (neu ‘View’) ar frig ffenest Cysgeir a dewiswch ‘Dewisiadau’ (neu ‘Options’).

4. Bydd ffenest newydd ‘Dewisiadau’ (neu ‘Options’) yn agor. Dewiswch y tab ‘Diweddaru’ (neu ‘Update’).

5. O fewn y tab ‘Diweddaru’ (neu ‘Update’), cliciwch ar y botwm ‘Edrych Nawr’ (neu ‘Check Now’).

6. Os bydd diweddariad ar gael, bydd Cysgeir yn eich arwain drwy ei lwytho i lawr o’r we a’i osod ar eich cyfrifiadur.

 

Yn ôl at y cwestiynau

Problemau wrth ddefnyddio Cysill

Rwyf wedi gosod Cysgliad ond fedraf i ddim gweld sut mae defnyddio’r feddalwedd o raglen Word.

Mae'r botymau 'Cysgeir' a 'Gwirio'r Ddogfen' wedi diflannu o far offer Word.

Sut gallaf i osod y botymau ar far offer Microsoft Office ?

 

Defnyddio Cysgeir a Cysill o fewn Word

Mae modd defnyddio Cysill a Cysgeir o fewn MS Office Word drwy osod botymau ar y bar offer.

1. Agorwch y rhaglen Cysill.

2. Cliciwch ar y ddewislen ‘Ffeil’ ac ewch at ‘Gosod’. Yna cliciwch ar ‘Gosod Bar Offer Word’ yn yr isddewislen.

3. Agorwch y rhaglen Cysgeir.

4. Cliciwch ar y ddewislen ‘Ffeil’ (neu ‘File’) ac ewch at ‘Gosod’ (neu 'Install'). Yna cliciwch ar 'Gosod bar offer Word' (neu 'Install') yn yr isddewislen.

5. Agorwch y rhaglen Microsoft Office Word.

6. Cliciwch ar y ddewislen Gweld (neu ‘View’) ar frig y ffenest .

7. O'r ddewislen Gweld (neu 'View'), dewiswch Bariau Offer (neu 'Toolbar').

8. Ar waelod y rhestr o fariau offer a gynigir, bydd 'Cysgeir' a 'Cysill 3'. Os nad ydynt i'w gweld, ewch ymlaen i gam 9. Os ydynt i'w gweld ac os nad oes tic wrth ymyl “Cysgeir” a “Cysill 3”, cliciwch arnynt i’w hychwanegu at y bar offer i ddatrys y broblem.

9. Yn y rhaglen Word, cliciwch ar y ddewislen ‘Offer’ (neu ‘Tools’) a dewiswch ‘Templedi ac Ategion’ (neu ‘Templates and Add-Ins’), gwnewch yn siŵr bod y bocsys wrth ymyl ‘Cysgeir.dot' a ‘Cysill 3.dot' wedi’u ticio, wedyn ewch yn ôl i gam 8.

10. I wirio'r ddogfen, cliciwch ar y botwm 'Gwirio Dogfen'. Os ydych am wirio rhan arbennig, amlygwch y testun yno, a chlicio ar y botwm 'Gwirio Dogfen'. Fe fydd Cysill 3 yn gwirio'r testun a amlygwyd. Mae cyfarwyddiadau pellach ynghylch defnyddio Cysill 3 a Cysgeir o fewn Word i’w gweld yn newislen ‘Help’ Cysill 3 a Cysgeir.

D.S.: Gwnewch yn siŵr mai MS Office Word yw eich rhaglen. Nid yw’r botymau hyn yn gweithio mewn rhaglenni fel ‘Word for Works’. Os nad MS Office Word yw eich rhaglen, gweler “Defnyddio Cysill 3 a Cysgeir gyda rhaglenni eraill”. Mae’r adran honno yn dangos sut mae defnyddio Cysill 3 a Cysgeir gyda rhaglenni fel ‘Word for Works’ drwy gyfrwng bysellau brys.

Yn ôl at y cwestiynau

Mae ffenest yn ymddangos o fewn Word yn rhybuddio bod gwall ar y ffeil cysill.dot

 

Weithiau gall y ffeil Cysill3.dot (sef templed Microsoft Word) dorri. Mae Cysill angen y ffeil yma er mwyn iddi weithio. Os bydd problem, fel arfer daw ffenest i’r golwg yn egluro bod problem gyda’r ffeil Cysill3.dot. Y ffordd orau a chyflymaf i gywiro hyn yw drwy ailosod y ffeil templed “cysill.dot”.

1. Agorwch y rhaglen Cysill

2. Cliciwch ar y ddewislen ‘Ffeil’ ac ewch at ‘Gosod’. Yna cliciwch ar ‘Dadosod Bar Offer Word’ yn yr isddewislen ac wedyn ar 'Gosod Bar Offer Word’.

3. Agorwch y rhaglen Microsoft Office Word.

4. Cliciwch ar y ddewislen Gweld (neu ‘View’) ar frig y ffenest .

5. O'r ddewislen Gweld (neu 'View'), dewiswch Bariau Offer (neu 'Toolbar').

6. Ar waelod y rhestr o fariau offer a gynigir bydd 'Cysgeir' a 'Cysill3'. Os nad ydynt i'w gweld yno ewch ymlaen i gam 7. Os ydynt i'w gweld ac os nad oes tic wrth ymyl “Cysgeir” a “Cysill3”, cliciwch arnynt, i’w hychwanegu at y bar offer.

7. Yn y rhaglen Word, cliciwch ar y ddewislen ‘ Offer ’ (neu ‘ Tools ’ ) a dewiswch ‘ Templedi ac Ategion ’ (neu ‘ Templates and Add-Ins ’ ), gnewch yn siŵr fod y bocsys wrth ymyl ‘ Cysgeir.dot ' a ‘ Cysill3.dot ' wedi’u ticio.

 

Yn ôl at y cwestiynau

A yw Cysill 3 neu Cysgeir yn gweithio ar gyfrifiadur Apple Mac ?

Mae fersiwn o Cysgliad ar gyfer yr Apple Mac ar gael. Cliciwch yma i ymweld â gwefan Cysgliad i'r Mac am fwy o wybodaeth.

Yn ôl at y cwestiynau

A yw Cysill 3 neu Cysgeir yn gweithio ar Linux ?

Nid yw Cysgliad wedi'i gynllunio i weithio ar Linux. Serch hynny, mae rhai'n adrodd eu bod wedi'i gael i weithio gan ddefnyddio'r efelychydd WINE, ond nid yw hyn yn cael ei gefnogi gan Canolfan Bedwyr.

Yn ôl at y cwestiynau

Gyda pha rhaglenni gallaf i ddefnyddio Cysgliad ?

 

Mae Cysgliad wedi’i ddatblygu i weithio yn uniongyrchol gyda’r pecynnau:
Microsoft Office hyd at fersiwn 2007,
OpenOffice 1.1 , 2.0 a 2.3 gan OpenOffice.org ag
StarOffice hyd at fersiwn 7 gan Sun.

Os nad ydych chi'n defnyddio’r pecynnau hyn, mae modd galw ar Cysgeir/Cysill drwy gyfrwng bysellau brys o unrhyw raglen yn Windows.

Sut mae gosod y botymau ar y bar offer yn Open Office 1.1

Nodyn: Awgrymwn eich bod yn manteisio ar y diweddariad rhad ac am ddim i Open Office 2.3 gan ei fod yn haws ac yn integreiddio'n well.

Os ydych chi'n defnyddio’r pecyn ‘Star Office’ neu ‘Open Office 1.1’ (Pecyn o raglenni tebyg i Microsoft Office, ond yn rhad ac am ddim), gallwch ddefnyddio Cysill 3 a Cysgeir o fewn y prosesydd geiriau drwy osod botymau ar y bar offer.

Cysill

1. Agorwch y rhaglen Cysill

2. Cliciwch ar y ddewislen ‘Ffeil’ (neu ‘File’) ac ewch at ‘Gosod’ (neu ‘Install’). Yna cliciwch ar ‘Star/OpenOffice.org’ yn yr isddewislen.

3. Fe fydd y ddogfen ‘GosodCysill 3.sxw’ yn agor. Ar y ddogfen, pwyswch y botwm ‘Gosod’ (neu ‘Install’) .

4. Caewch bob rhaglen OpenOffice neu StarOffice, ac ailgychwynnwch y prosesydd geiriau. Fe ddylech weld botwm gydag eicon melyn Cysill (tebyg i siâp ‘C’) arno.

5. I wirio' ddogfen cliciwch ar y botwm Cysill, neu os ydych am gywiro rhan arbennig, amlygwch y testun yno, a chlicio ar y botwm Cysill. Fe fydd Cysill 3 yn agor gyda chopi o’r testun a amlygwyd.

Cysgeir

1. Agorwch y rhaglen Cysgeir

2. Cliciwch ar y ddewislen ‘Ffeil’ (neu ‘File’) ac ewch at ‘Gosod’ (neu ‘Install’), yna cliciwch ar ‘Star/OpenOffice.org’ yn yr isddewislen.

3. Fe fydd y ddogfen ‘GosodCysgeir.sxw’ yn agor. Yn y ddogfen, pwyswch y botwm ‘Gosod’.

4. Caewch bob rhaglen OpenOffice neu StarOffice, ac ailgychwyn y prosesydd geiriau. Fe ddylech weld botwm gydag eicon coch Cysgeir (tebyg i siâp ‘C’) arno.

 

Sut mae gosod y botymau ar y bar offer o fewn Open Office 2.0

Nodyn: Awgrymwn eich bod yn manteisio ar y diweddariad rhad ac am ddim i Open Office 2.3 gan ei fod yn haws ac yn integreiddio'n well.

Nid ydym wedi profi Cysgliad yn gyfan gwbl gyda OpenOffice 2.0 eto. Fodd bynnag, mae modd i chi ddefnyddio Cysill 3 a Cysgeir o fewn y prosesydd geiriau ynddo drwy osod botymau ar y bar offer.

Cysill

1.Agorwch y ddogfen ‘GosodCysill 3.sxw’ yn c:\Program Files\Canolfan Bedwyr\Cysgliad\cysgeir\OpenOffice\

2. Os gwelwch rybudd yn eich cynghori i alluogi ‘Macros’, cliciwch ar ‘Enable Macros’.

3. Fe fydd y ddogfen ‘GosodCysill 3.sxw’ yn agor. Yn y ddogfen, cliciwch ar y botwm ‘Gosod’ (neu ‘Install’).

4. Caewch bob rhaglen StarOffice neu OpenOffice, ac ail-gychwyn y prosesydd geiriau. Fe ddylech weld botwm gyda’r eicon Cysill melyn (tebyg i siâp ‘C’) arno.

5. I wirio' ddogfen cliciwch ar y botwm Cysill, neu os ydych am gywiro rhan arbennig, amlygwch y testun yno, a chlicio ar y botwm Cysill. Fe fydd Cysill 3 yn agor gyda chopi o’r testun a amlygwyd.

Cysgeir

1. Agorwch y rhaglen Cysgeir

2. Cliciwch ar y ddewislen ‘Ffeil' (neu ‘File’) ac ewch at ‘Gosod' (neu ‘Install’). Yna cliciwch ar ‘Star/OpenOffice.org’ yn yr isddewislen.

3. Os gwelwch rybudd yn eich cynghori i alluogi ‘Macros’, cliciwch ar ‘Enable Macros’

4. Fe fydd y ddogfen ‘GosodCysgeir.sxw’ yn agor. Yn y ddogfen, cliciwch ar y botwm ‘Gosod’ (neu ‘Install’).

5. Caewch bob rhaglen StarOffice neu OpenOffice, ac ailgychwyn y prosesydd geiriau. Fe ddylech weld botwm gydag eicon coch Cysgeir (tebyg i siâp ‘C’) arno.

Sut mae gosod y botymau ar y bar offer o fewn Open Office 2.3

Mae'r diweddariad nesaf o Cysgliad yn chwilio eich cyfrifiadur am gopi o Open Office 2.3. Os caiff hyd iddo, bydd yn gosod botymau ar gyfer Cysill a Cysgeir ym mar offer Open Office 2.3.

Botymau bar offer yn Microsoft Office Outlook 2003

Os ydych chi'n defnyddio MS Office Outlook 2003, mae modd i chi gael botymau Cysill 3 a Cysgeir ar y bar offer.

1. Agorwch y rhaglen Microsoft Outlook 2003.

2. Cliciwch ar y ddewislen ‘ Offer' (neu ‘Tools’) a chliciwch ar ‘ Dewisiadau’ (neu ‘Options’).

3. O fewn y ffenest ‘Dewisiadau ’ (neu ‘Options’) sy’n agor o’ch blaen, cliciwch ar y tab ‘Fformat Post ’ (neu ‘Mail Format’).

4. O dan y teitl ‘Fformat y neges’ (neu ‘Message format’ ), sicrhewch bod tic wrth y frawddeg “Defnyddio Microsoft Office Word i olygu negeseuon e-bost” (neu “Use Microsoft Office Word to edit e-mail messages”). Cliciwch ar y bocs bach wrth ei ymyl os nad oes tic.

5. Cliciwch ar y botwm 'Defnyddio' (neu ‘Apply’) ar waelod y ffenest, ac wedyn ar 'Iawn' (neu ‘OK’).

6. Cliciwch ar y botwm 'Newydd' (neu ‘New’) ar y bar offer i agor y ffenest creu neges e-bost newydd.

7. O fewn y ffenest creu e-bost, cliciwch ar y ddewislen 'Gweld' (neu 'View').

8. O’r ddewislen 'Gweld' (neu ‘View’), ewch at 'Bariau Offer' (neu 'Toolbar').

9. Yng ngwaelod y rhestr o fariau offer a gynigir, bydd “Cysgeir” a “Cysill 3”. Os nad oes tic wrth eu hymyl, cliciwch arnynt, i’w hychwanegu at y bar offer.

 

Defnyddio Cysill 3 a Cysgeir gyda rhaglenni eraill drwy gyfrwng y bysellau brys

Mae modd defnyddio Cysill 3 a Cysgeir gydag unrhyw raglen arall o fewn Windows sy’n cynnwys nodweddion golygu testun. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni fel Microsoft Works, rhaglenni e-bost eraill fel Mozilla Thunderbird neu Netscape a golygyddion testun syml fel Notepad neu WordPad.

Bysellau brys Cysill 3

1. Agorwch y rhaglen Cysill

2. Amlygwch air, brawddeg neu baragraff cyfan yn Gymraeg yn eich dogfen (e.e. e-bost).

3. Pwyswch y botymau CTRL + ALT + W gyda’i gilydd.

4. Fe ddylai'r testun dan sylw gael ei ludo i Cysill.

5. Wedi i Cysill orffen cywiro eich testun, fe fydd yn ei ludo yn ôl i'ch dogfen yn awtomatig.

Bysellau brys Cysgeir

1. Agorwch y rhaglen Cysgeir

2. Amlygwch air Saesneg neu Gymraeg yn eich e-bost.

3. Pwyswch y botymau CTRL + ALT + G ar gyda’i gilydd.

4. Fe ddylai'r gair dan sylw gael ei ludo i Cysgeir.  

5. Os hoffech chi ludo'r cyfieithiad ohono yn ôl i'ch e-bost, rhowch y cyrchwr dros y gair a chlicio ar fotwm de’r llygoden. Yna clicio ar fotwm chwith y llygoden i'w ddewis. Caiff ei ludo'n ôl i'ch e-bost yn awtomatig.

Yn ôl at y cwestiynau

Mae fy nghyfrifiadur yn chwalu wrth ddefnyddio Cysill 3 / Cysgliad

 

Ai Cysgliad sy’n achosi’r broblem ?

Mae’n bosib nad Cysgliad yw’r broblem. Gall dylanwadau eraill ar eich cyfrifiadur y tu allan i feddalwedd Cysgliad achosi’r broblem. Er mwyn gweld ai Cysgliad neu rywbeth arall ar eich cyfrifiadur sy’n achosi’r broblem, mae modd i chi ddadosod y pecyn Cysgliad (gweler isod) a cheisio ailgreu’r broblem. Os yw’r broblem yno o hyd, yna nid Cysgliad sy’n ei hachosi. Os yw’r broblem wedi diflannu, gosodwch Cysgliad yn ôl ar eich cyfrifiadur. Mae’n bosib na fydd y broblem yn dychwelyd, ac os felly nid oes angen i chi wneud dim pellach. Os yw’r broblem yno o hyd, cysylltwch â Chanolfan Bedwyr drwy: cysgliad@bangor.ac.uk

Dadosod Cysgliad

1. O fwrdd gwaith Windows, cliciwch ar 'cychwyn' (neu start ’).

2. Os Windows98 neu WindowsME sydd gennych, cliciwch ar ‘Settings’ ac wedyn ‘Control Panel’. Os mai Windows 2000 neu Windows XP sydd gennych cliciwch yn syth ar ‘Panel Rheoli’ (neu ‘Control Panel’).

3. Wedi i’r ffenest ‘Panel Rheoli’ (neu ‘Control Panel’) agor o’ch blaen, cliciwch ar ‘Ychwanegu neu dynnu rhaglenni’ (neu ‘Add or Remove Programs’).

4. Ar ôl ychydig o eiliadau, bydd ffenest newydd yn dangos rhestr o’r rhaglenni sydd wedi’u gosod ar eich cyfrifiadur. Os gwelwch Cysgliad gyda’r eicon gwyrdd (tebyg i siâp ‘C’) wrth ei ochr, yn y rhestr, cliciwch arno, ac wedyn cliciwch ar ‘Tynnu’ (neu ‘Remove’). Dilynwch y cyfarwyddiadau i ddadosod Cysgliad yn gyfan gwbl. Os na welwch Cysgliad yn y rhestr, ewch ymlaen i gam 6.

5. Caewch bob rhaglen sydd ar agor ac yna ailgychwyn y cyfrifiadur.

6. Wedi i Windows gychwyn, rhowch ddisg Cysgliad yn y gyriant CD a dilynwch y cyfarwyddiadau i osod y pecyn Cysgliad o’r newydd.

Yn ôl at y cwestiynau


Cefais neges rhybudd gan Windows yn cwyno am "MAPI"

Protocol i alluogi gwahanol raglenni i ddefnyddio eich rhaglen e-bost yw MAPI. Yr unig adeg y mae Cysgliad yn galw arno yw pan fyddwch wedi dewis gyrru neges am wall o ddewislen ‘Help’ yn Cysill. Os bydd defnyddiwr yn gwneud hyn, bydd Cysill yn defnyddio’r protocol MAPI i agor eich rhaglen e-bost arferol i greu neges i’w gyrru at Ganolfan Bedwyr. Mae llawer o raglenni eraill yn defnyddio MAPI. Os nad yw’r anhawster yn codi bryd hynny, mae’n debyg ei fod wedi achosi gan elfen y tu allan i Cysgliad. Os ceir y broblem wrth greu neges am wall, mae’n debyg mai rhywbeth yng ngosodiad Windows neu yn eich rhaglen e-bost sy’n achosi amwyster yn MAPI. Os yw hyn yn digwydd ar gyfrifiadur gwaith sydd wedi ei gysylltu â rhwydwaith rheoledig ac wedi mewngofnodi i weinydd Microsoft Exchange, neu Novell Netware neu Groupware, gall y broses ar y gweinydd fod yn rhwystro MAPI ar eich cyfrifiadur hefyd. Mae hyn yn dibynnu ar sut y gosodwyd y systemau gweithredu ar y rhwydwaith.

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur cartref, heb rwydwaith rheoledig, ac mae’r broblem yn codi pan fyddwch yn ceisio gyrru neges drwy Cysill, ceisiwch ail osod eich rhaglen e-bost.

Yn ôl at y cwestiynau

Datblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith | Blog yr Uned | Y Datblygwyr

Hawlfraint Prifysgol Bangor © 2008


Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio Cysill neu Cysgeir, cliciwch ar llawlyfr yn y ddewislen ar y chwith i gael mynediad at y llawlyfr ar-lein ar gyfer y ddwy rageln.

Cysgliad
Cysill
Cysgeir
Llawlyfr Cysgliad
Cwestiynau Cyffredin
Demos Fideo
Prynu Cysgliad
Uned Technolegau Iaith
PB