

Mae’r wefan hon wedi ei chynllunio i’ch galluogi i chwilio cynnwys cronfa ddata Cronfa Baledi yn hawdd ac yn hwylus. Awgrymwn mai’r ffordd orau i ddysgu ei defnyddio yw rhoi cynnig arni gan ei bod i raddau helaeth yn ei hegluro ei hun. Er hynny, mae cyfarwyddiadau syml ar sut i’w defnyddio i’w cael isod, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â rhai nodweddion llai amlwg.
Er mwyn gallu chwilio, mae’n rhaid dewis pa un o’r meysydd o fewn y gronfa yr hoffech ei chwilio. Mae’r meysydd hyn yn cyfateb i’r categorïau o wybodaeth oddi mewn i’r gronfa. Er enghraifft, wrth chwilio’r maes Awdur, mae’r cyfrifiadur yn chwilio drwy restr o’r holl Awduron yn y gronfa ac yn dangos pob cofnod lle mae cynnwys y maes yn cyfateb i’r hyn yr ydych chi wedi ei deipio yn y blwch chwilio.
Gallwch ddewis pa faes i’w chwilio drwy roi clic ar y gwymplen gyntaf (fel y gwelir isod) a dewis o’r meysydd sy’n cael eu cynnig.

Wedi i chi ddewis y maes yr hoffech ei chwilio, dewiswch sut fath o chwiliad yr hoffech chi ei ddefnyddio drwy glicio ar yr ail gwymplen a dewis un o'r dewisiadau sy'n cael eu cynnig, fel yn y llun isod.

Gallwch wneud chwiliad manwl iawn sy’n chwilio’n unig am yr union beth sydd gennych yn y blwch chwilio. I wneud hyn dewiswch ‘yn cyfateb yn union i’ yn y gwymplen gyntaf, fel yn y llun isod:

Gallwch hefyd chwilio am gofnod sydd yn dechrau gyda’r hyn sydd gennych yn y blwch chwilio. Gwnewch hyn drwy ddewis ‘dechrau gyda' yn y gwymplen gyntaf, fel yn y llun isod:

Mae modd hefyd chwilio am gofnod sydd yn gorffen gyda’r hyn yr ydych wedi ei deipio yn y blwch chwilio. Dewiswch ‘gorffen gyda' yn y gwymplen gyntaf i chwilio fel hyn:

Y chwiliad mwyaf defnyddiol fel arfer yw’r un am gofnod sy’n cynnwys yr hyn yr ydych wedi ei deipio yn y blwch chwilio unrhyw le o fewn y maes sy’n cael ei chwilio, boed hynny ar ddiwedd, ar ddechrau, neu yng nghanol gair hyd yn oed. I chwilio fel hyn, dewiswch ‘yn cynnwys’ o’r gwymplen, fel yn y llun isod:

Mae modd newid y nifer o ganlyniadau sy’n cael eu dangos ar un dudalen ar y tro. Byddwch yn ofalus i beidio â dewis rhif sy’n rhy fawr gan y gall hyn olygu y bydd cryn amser yn pasio cyn i’r dudalen lwytho i lawr yn ei chyfanrwydd. Pan fydd mwy o gofnodion nag y mae modd eu dangos ar y dudalen, bydd modd clicio ar y rhifau tudalen ar waelod y sgrin i symud ymlaen at gofnodion pellach.
![]()
Wedi i chi ddewis y modd chwilio, rhoi eich gair chwilio yn y blwch chwilio, dewis y maes priodol i'w chwilio a dewis y nifer o ganlyniadau i'w dangos, cliciwch ar 'Chwilio' i chwilio'r gronfa. Ymhen rhai eiliadau, os oes cofnodion sy'n cyfateb i'ch chwiliad yn bodoli yn y gronfa byddwch yn gweld rhestr o ganlyniadau ar eich sgrin ar ffurf rhestr debyg i'r un isod:

Gan fod cymaint o wybodaeth yn y gronfa ddata, dim ond y prif feysydd sy’n cael eu dangos wedi i chi glicio ar 'Chwilio'. Rhaid clicio ar Rhagor ar ochr chwith y tabl (gweler uchod) er mwyn gweld yr wybodaeth ychwanegol sy’n perthyn i gofnod unigol.
Fodd bynnag, os byddwch chi wedi dewis 'Dangos pob canlyniad yn llawn', bydd pob un o ganlyniadau'r chwiliad yn cael eu dangos gyda'r holl wybodaeth ychwanegol yn y golwg.
Unwaith y bydd canlyniadau’r chwiliad yn cael eu dangos mae modd eu trefnu yn ôl cynnwys y gwahanol golofnau drwy roi clic ar deitl y golofn. Er enghraifft, i drefnu’r canlyniadau yn ôl cynnwys y Llinell Gyntaf, rhowch glic ar ‘Llinell Gyntaf ’ ar frig y tabl (gweler isod). Mae clicio unwaith yn trefnu’r golofn yn ôl trefn yr wyddor ac mae clicio eilwaith yn ei threfnu yn groes i drefn yr wyddor.

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Hawlfraint © 2006 |