Importing into Wordfast Glossary from the Welsh National Database of
Terms
Cyffredinol
           
Mae
modd defnyddio'r Gronfa Genedlaethol o Dermau mewn dwy ffordd: chwilio am derm
penodol yn fyw ar y we,  a llwytho geiriaduron cyfan i lawr i'ch cof
cyfieithu. 
Chwilio am dermau unigol yn y Gronfa
Genedlaethol o Dermau
 - Cliciwch y botwm iaith
     priodol i ddynodi iaith eich chwilio.
- Dewiswch y geiriadur yr
     hoffech chwilio ynddo, neu dewiswch 'Pob Geiriadur' os ydych am chwilio
     ynddynt i gyd.
- Teipiwch y term yr
     ydych am gyfieithiad ohono yn y blwch Chwilio.
- Sylwch fod modd i chi
     chwilio am y term cyfan, neu deipio i mewn ddechrau, diwedd neu ran yn
     unig o derm.
Llwytho Geiriaduron i Lawr
Yn y ffeiliau cymorth perthnasol ceir
cyfarwyddiadau manwl ar sut i lwytho i lawr i raglenni cof cyfieithu unigol yn
y ffeiliau cymorth perthnasol. Cofiwch fod angen i chi ddarllen y Drwydded
Defnyddiwr a chlicio eich bod yn derbyn ei hamodau cyn medru symud ymlaen i
lwytho geiriadur i lawr.