Chwilio Cefndir Arweiniad Defnyddiwr Prifysgol Cymru Prifysgol Caerdydd


Mynegai Cyfrifiadurol i Faledi Argraffedig y Ddeunawfed Ganrif: Cefndir

I’r beirniad llên, yr ieithydd, y cerddor a’r hanesydd y mae baledi Cymraeg y ddeunawfed ganrif yn drysorfa o wybodaeth heb ei hail. Cynigia’r baledi dystiolaeth hyglyw ynghylch y modd y gwerineiddiwyd y diwylliant barddol Cymraeg erbyn y ddeunawfed ganrif ac y maent hefyd yn enghreifftio twf rhyfeddol llythrennedd yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod a’r modd y porthwyd hynny gan weisg argraffu yng Nghymru a’r Gororau. Mewn oes a oedd yn amddifad o’r cyfryngau torfol yr ydym ni mor gyfarwydd â hwy, y faled oedd un o’r prif gyfryngau ar gyfer lledaenu newyddion am ddigwyddiadau dramatig a llywio barn y cyhoedd, ac y mae disgrifiad Alan Bold o’r faled yn Lloegr – ‘Metrical journalism of the masses’ – yr un mor briodol yn y cyd-destun Cymreig hefyd.

 Hyd at y mynegai electronig hwn, y man cychwyn anhepgor i’r sawl a fynnai ymchwilio i faledi argraffedig y ddeunawfed ganrif oedd cyfrol J. H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads Printed in the 18th century (London, 1908-11), cyfrol yr ychwanegwyd yn ddirfawr at ei gwerth gan lafur Tegwyn Jones yn ei Mynegai i ‘A Bibliography of Welsh Ballads Printed in the 18 th Century’ (J. H. Davies) (Aberystwyth, 1997). Disgrifir 759 o lyfrynnau o faledi yng nghyfrol J. H. Davies. Dros y blynyddoedd daeth eraill i'r golwg. Ychwanegwyd manylion am dros gant o lyfrynnau yng nghopi anodedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru o gyfrol J. H. Davies, a'u rhifo trwy ychwanegu llythrennau at rifau J. H. Davies (e.e., JHD 2b, JHD 24a, JHD 91c). Cadwyd at rifau'r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer yr eitemau hynny wrth baratoi'r mynegai electronig presennol. Yn ogystal, wrth baratoi'r mynegai hwn daeth 132 o lyfrynnau eraill i'r golwg; fe'u rhifwyd yn JHD 760 hyd JHD 891. Yn y mynegai presennol, felly, ceir gwybodaeth am bron 250 o o lyfrynnau nad oeddynt yn hysbys i J. H. Davies ac, ochr yn ochr â chatalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru o faledi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (gweler: http://www.llgc.org.uk/), y mae’n cynnig allwedd hwylus i fyd y faled Gymraeg.

Y mae’r mynegai hwn yn ffrwyth prosiect ymchwil ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a Phwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Cyfarwyddwyd y gwaith gan yr Athro Peredur I. Lynch (Bangor) a Dr E. Wyn James (Caerdydd), a chasglwyd yr holl ddata a’i brosesu gan Mr Peredur Glyn Cwyfan Davies a fu’n gweithredu fel ymchwilydd ar ran y Pwyllgor Iaith a Llên yn 2004-5. Drwy garedigrwydd yr Athro Hywel Wyn Owen a Mr Einion W. Thomas, rhoed cartref i’r prosiect yn y Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd, Archifdy Prifysgol Bangor, a gwnaed cyfraniad gwerthfawr at lwyddiant y gwaith gan aelodau Pwyllgor Rheoli’r prosiect: Dr A. Cynfael Lake (Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe), Dr Siwan Rosser (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd), Dr Huw Walters (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Ms Ellen Parry Williams (Llyfrgellydd Cymraeg Prifysgol Bangor ar y pryd).

 

 

 

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Hawlfraint © 2006
Datblygwyd y wefan gan Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr