Uned e-Gymraeg:
Terminoleg a Pheirianneg Iaith
Amdanon
ni
Mae’r Uned
e-Gymraeg yn cynnwys y Ganolfan Safoni Termau (a leolwyd gynt yn yr Ysgol
Addysg) a nifer o brojectau peirianneg iaith a ddatblygwyd yn wreiddiol yn yr
Ysgol Seicoleg, Canolfan Ymchwil Cymru, a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Cymru,
Bangor. Mae ganddi nifer o brojectau ymchwil a datblygu ar y gweill ar hyn o
bryd, yn cynnwys geiriaduron termau newydd, offer gwirio sillafu a gramadeg
Cymraeg, a thechnoleg llais ar gyfer y Gymraeg a’r Wyddeleg. Ymhlith ei
chynnyrch mae CySill, CysGair, a’r Termiadur Ysgol. Mae’r Uned yn cartrefu o fewn Canolfan
Bedwyr, canolfan unigryw Prifysgol Cymru, Bangor ar gyfer gwasanaethu a
hyrwyddo’r Gymraeg.
Amcanion yr Uned:
§
Safoni
termau technegol Cymraeg a hyrwyddo gwyddor geiriadura a therminoleg, yn
enwedig yng nghyd-destun y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill
§
Datblygu
offer technoleg iaith a pheirianneg iaith i wasanaethu anghenion y Gymraeg a’r
gymuned amlieithog ehangach
Manylion cyswllt
Uned
e-Gymraeg Canolfan Bedwyr
Aethwy
Ffordd y
Coleg
Bangor
Gwynedd
LL57 2 DG
ffôn/ffacs:
+44 (0)1248 383293
e-bost:
cbs602
Cysylltiadau
Cartref
Canolfan Bedwyr
Ymgynghoriad
Termau Addysg 16+ ACCAC
Hyfforddiant
ar-lein
Llyfryddiaeth
Ymaelodi â
welsh-termau-cymraeg
Ymaelodi â
Termcelt
Ymaelodi â
rhestr e-Gymraeg
Meddalwedd
rhydd Cymraeg